Y Repwblic
Conversations with Wales' Republicans : Poblachiaethwyr - Repwbligwyr - Gweriniaethwyr

Normaleiddio'r Iaith Gymraeg

 
Post new topic   Reply to topic    Y Repwblic Forum Index -> Welsh Language Forum - Seiat Iaith Cymraeg
View previous topic :: View next topic  
Author Message
dai



Joined: 09 Feb 2007
Posts: 2810

PostPosted: Sun Jan 13, 2013 9:42 pm    Post subject: Normaleiddio'r Iaith Gymraeg Reply with quote

( Mudiad newydd i'r iaith byw )

http://www.bbc.co.uk/newyddion/20729805

" Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn sylweddol yn yr iaith Gymraeg wrth iddyn nhw lansio 'maniffesto byw'.

Ymgasglodd hyd at 300 o bobl ar y Maes yng Nghaernarfon i lansio'r maniffesto ddydd Sadwrn, a ddaw ar ôl i ganlyniadau'r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi.

Mae'r ddogfen, sy'n cynnwys dros 20 o bolisïau, yn cynnwys y galw am drawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo 'her' allfudo a mewnfudo a gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithiwyr y sector cyhoeddus.

Mae'r maniffesto hefyd yn galw am system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg a datganoli swyddi Cymraeg i gymunedau yn ogystal â sicrhau pedair gwaith yn fwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth yn yr iaith."

-------------------------------------------------------------------------------------

http://www.bbc.co.uk/newyddion/20995530

Mae mudiad iaith newydd yn cynnal cyfarfod cyntaf yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Nod Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw bod yn fforwm fel y gall cymunedau, mentrau a chyrff gydweithio er mwyn adfywio'r iaith Gymraeg.

Mae'r aelodaeth yn cynnwys rhai cynghorau tref a chymuned - Cynghorau tref Caerfyrddin a Chaernarfon er enghraifft - a mentrau cydweithredol fel Tafarn y Saith Seren yn Wrecsam a Menter Dyffryn Ogwen, trefnwyr Pesda Roc.

Dywedodd un o sefydlwyr y cynghrair, Menna Machreth: "Mae'r cyfarfod cenedlaethol cyntaf hwn yn gyfle pwysig er mwyn i'r aelodau presennol ac aelodau arfaethedig ddod at ei gilydd i drafod sut y gellir cydweithio a pha fath o bethau y gallwn eu gwneud i gynnal a chryfhau'r Gymraeg ar lawr gwlad."
Back to top
View user's profile Send private message
Display posts from previous:   
Post new topic   Reply to topic    Y Repwblic Forum Index -> Welsh Language Forum - Seiat Iaith Cymraeg All times are GMT
Page 1 of 1

 
Jump to:  
You cannot post new topics in this forum
You cannot reply to topics in this forum
You cannot edit your posts in this forum
You cannot delete your posts in this forum
You cannot vote in polls in this forum


© 2007-2008 Informe.com. Get Free Forum Hosting
Powered by phpBB © 2001, 2005 phpBB Group
 :: 
PurplePearl_C 1.02 Theme was programmed by DEVPPL JavaScript Forum
Images were made by DEVPPL Flash Games